Mae Susan Richardson yn awdur, perfformiwr ac addysgwr y mae ei gwaith ffeithiol greadigol, ‘Where the Seals Sing’ (William Collins), yn plymio’n ddwfn i fywydau morloi llwyd yr Iwerydd, gan blethu hanes naturiol a theithio, gwyddoniaeth a siamaniaeth, cofiant a myth. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu pedwar casgliad o farddoniaeth, ac mae’r mwyaf diweddar ohonynt, ‘Words the Turtle Taught Me’ (Cinnamon Press), ar thema rhywogaethau morol sydd mewn perygl, wedi dod i’r amlwg o’i chyfnod preswyl gyda’r Gymdeithas Cadwraeth Forol a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Ted Hughes. Ysbrydolwyd ei chasgliad barddoniaeth cyntaf, ‘Creatures of the Intertidal Zone’, gan ei thaith, a gefnogwyd gan Gymrodoriaeth Churchill, trwy Wlad yr Iâ, yr Ynys Las a Newfoundland yn ôl troed Llychlynwraig ddewr o’r unfed ganrif ar ddeg.
Mae Susan wedi bod yn awdur preswyl gyda Rhwydwaith Astudiaethau Anifeiliaid Prydain, a hwylusir gan Brifysgol Strathclyde, a’r fenter lles anifeiliaid byd-eang, Diwrnod Anifeiliaid y Byd. Mwynhaodd hefyd gyfnod o bedair blynedd fel un o berfformwyr barddonol ar Saturday Live ar Radio 4, a thymor o ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth ar gyfer darllediadau BBC Two o Sioe Flodau Chelsea. Mae hi wedi cael cyfle i rannu ei gwaith mewn gwyliau llenyddol, amgylcheddol a gwyddoniaeth ledled y DU a thramor, o Cheltenham i Adelaide, o Toronto i’r Gelli Gandryll.
Fel addysgwr, mae gan Susan dros ugain mlynedd o brofiad o ddyfeisio a hwyluso cyrsiau a gweithdai ysgrifennu, o sesiynau hanner diwrnod i sesiynau preswyl wythnos o hyd. Mae hi wedi cynnal gweithdai mewn prifysgolion, ysgolion, cartrefi ymddeol, hosbisau, ar glogwyni Cymru a mynyddoedd yr Alban, yn ogystal ag ar-lein. Mae hi’n mwynhau cynnig gweithdai Ysgrifennu Gwyllt yn arbennig ar gyfer sefydliadau fel yr RSPB, Gŵyl Wild and Well, y WWF a’r Ymddiriedolaethau Natur.