Symudodd Siân Marlow, a gafodd ei geni a’i magu ym Mrymbo, pentref bach ger Wrecsam yng ngogledd Cymru, i Reading yn 2010. Ac yno mae hi’n dal i fyw gyda’i gŵr, ei mab a dau gi mawr. Cafodd radd mewn Ieithoedd Modern o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, gan arbenigo mewn Swedeg ac Almaeneg. Yna, dechreuodd Siân ei chwmni cyfieithu bach ei hun, Midnight Sun Translations, fel ffordd o fwynhau ei hangerdd am y gair ysgrifenedig. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Reading ac mae newydd gwblhau ei nofel gyntaf. Cafodd ei stori fer ‘Echoes’ ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies yn 2024 ac ymddangosodd hefyd yn y flodeugerdd, A Dictionary of Light, a gyhoeddwyd gan Parthian Books.