Cafodd nofel gyntaf Rhiannon Lewis, ‘My Beautiful Imperial’, ei henwi gan y Walter Scott Prize Academy fel un o’r 20 nofel hanesyddol a argymhellwyd ar gyfer 2018. Gosodwyd ei chasgliad o storïau byrion, ‘I Am the Mask Maker and other stories’ ar restr fer ffuglen Saesneg Llyfr y Flwyddyn, 2022. Cyhoeddwyd ‘The Significance of Swans’ gan Y Lolfa yn 2024. Yn wreiddiol o Aberteifi mae hi’n byw ger Y Fenni.