Artist, ysgrifennwr a darluniwr yn wrieddiol o Llangeitho – nawr yn byw yng Nghaerdydd. Yn dod o deulu dwyieithog, gyda chymysg o gymeriadau gwleidyddol ar un ochr, ac o’r ochr arall diddordeb yn y dyniaethau ac iechyd meddwl. Ers dechrau ei yrfa ar ôl graddio’r cwrs Darlunio CSAD yn 2015, mae Osian wedi darlunio 10+ llyfrau plant a nofelau graffeg, wedi eu cyhoeddi gan sawl gwasg a chynghorau dros Gymru. Trwy gymysgedd o gydweithio, cynnal gweithdai grŵp, a phrosiectau ei hun, mae Osian yn aml yn creu llyfrau bach ar gael yn Siop Shelflife yng Nghaerdydd.
Fel darlunydd, y mae wedi ei gyhoeddi gan Petra Publishing, Stephens & George, Darllen.co, gyda sawl llyfr wedi eu cyhoeddi gan elusennau a chynghorau dros de Cymru. Ac wedi gweithio fel darlunydd fyw i NTW a fel darlunydd/gwesteiwr/perfformiwr i’r brosiect Tân yn LLŷn, Eisteddfod Gen 2023.
Carfan Cynrychioli Cymru 2023.
Am waith arferol mae’n gweithio dros de Cymru yn rhedeg gweithdai sgwennu/darlunio i blant, pobl ifanc, ac oedolyn; weithiau yn tynnu storiâu at ei gilydd i greu llyfrau/Zines sy’n cyfleu profiadau’r grŵp fel gofalwyr ifanc, pobl ddigartref, plant mewn gofal ac ati. Gweler: www.OsianGrifford.com