Ganed Phil Jones yn Birmingham ac ers hynny mae wedi byw yn Sir Benfro, Caerdydd, Bryste a Chaeredin. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd unwaith eto, gyda’i bartner, Philippa, a’u cath, Mila. Mae ei fywyd gwaith wedi ei weld yn cynaeafu bylbiau cennin Pedr ar y caeau y tu allan i Dyddewi a theithio o gwmpas Cymru ar ran amrywiol elusennau celfyddydol. Ar hyn o bryd mae’n astudio am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cyhoeddwyd pamffled cyntaf Phil o farddoniaeth, Summer’s Work, yn haf 2024 gan Green Bottle Press. Mae’n Awdur ar Waith Gŵyl y Gelli; enillodd Gystadleuaeth Erthygl Awduron Newydd y cylchgrawn Planet, a daeth yn ail yng Ngwobrau Ysgrifennu Cymreig Newydd y New Welsh Review. Fel cerddor mae’n recordio ac yn perfformio dan yr enw Dusty Cut.