Mae Morgan Elwy yn gerddor a bardd o Llansannan, Dyffryn Clwyd. Ar enill cân i Gymru yn 2021 gyda’r gân reggae poblogaidd Bach O Hwne mae Morgan wedi rhyddhau dau album o ganeuon reggae, blues a gwerinol Cymraeg, Teimlo’r Awen (2021) a Dub yn y Pub (2024). Ers cyflwyno ei hun i’r byd celfyddydau cymraeg mae Morgan wedi bod yn brysur yn perfformio, ysgrifennu, rhedeg label Bryn Rock a cynnal gweithdai ledled Cymru. Yn ogystal a perfformio ei waith yn gyson a creu theatr hefo Cwmwniau fel Arad Goch a Pigtown Productions, mae Morgan wedi bod yn cynnal gweithdai barddoniaeth ag Ysgrifennu Cân mewn ysgolion a clybiau yn Nyffryn Clwyd, Wrecsam a thu hwnt.