Awdur, cerddor a pherfformiwr sy’n byw yn ne Cymru yw Dewi Heald. Mae wedi cyhoeddi llawer o nofelau byrion, casgliadau o straeon byrion a nofelau ac yn bygwth cyhoeddi ei farddoniaeth rywbryd yn y dyfodol. Enillodd ei nofel fer, Me, I’m Like Legend, I Am – stori ddigri am fywyd mewn Bro Morgannwg ôl-apocalyptaidd – wobr y New Welsh Review / Prifysgol Aberystwyth am ffuglen dystopaidd yn 2019. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, The Great Stupidity, yn ddiweddar gan Cambria Books. Dyma stori gomig am addysg wael mewn coleg Addysg Bellach yn ne Cymru.
Mae Dewi yn aml yn darllen a pherfformio ei waith yn nosweithiau meic agored y Talisman yn Abertawe ac yng Nghylch Ysgrifenwyr Llanilltud Fawr. O dan y ffugenw Dai Bongos, mae hefyd yn perfformio cerddoriaeth er pleser ac yn achlysurol ar gyfer elusen.
Mae hefyd yn gwerthu crysau-t, mygiau ac unrhyw beth yr ydych yn barod i’w brynu o’i siop ar-lein (dim ad-daliadau).