Irram ydw i o Gaerdydd. Dw i wedi bod yn ysgrifennu ers pan oeddwn yn fy arddegau, ond dim ond 30 mlynedd yn ddiweddarach dw i wedi dechrau gwneud fy ffordd fel awdur cyhoeddedig. Dysgais Gymraeg fel oedolyn ac ar hyn o bryd mae gen i ddwy golofn gyda chylchgrawn ar-lein y dysgwr Cymraeg Lingo360 (colofn iechyd wrth i mi weithio i’r GIG a cholofn hanes gan fy mod wrth fy modd â hen bethau!). Dw i’n gyfrannwr storiau byr i Cip, cylchgrawn yr Urdd i blant. Ar hyn o bryd dw i’n gweithio ar erthyglau ar gyfer cyhoeddiadau Saesneg. Dw i newydd gyhoeddi dau lyfr dwyieithog – casgliad o farddoniaeth ‘Cymraeg, Asiaidd a Balch’ a chasgliad o straeon byrion ysbryd ‘Fe Ddaw Atom Ni Oll’, sydd ar hyn o bryd wedi’u stocio mewn siopau llyfrau annibynnol yn Ne Cymru ac i gael eu stocio’n ehangach gan Gyngor Llyfrau Cymru. Y flwyddyn nesaf dw i’n dod â chasgliad o straeon byrion i blant wrth weithio ar fy nofelau cyntaf – un i blant ac un i oedolion! Dw i’n mor gyffrous ac yn llawn cyffro! Fi jyst angen i ennill y loteri nawr fel y gallaf roi’r gorau fy swydd i ysgrifennu’n llawn amser!