Mae Gordon Anderson yn draethodydd ac yn fardd. Yn rhan o garfan (Ail)Sgwennu Cymru 2023 Llenyddiaeth Cymru, mae ei draethodau ar gelfyddyd a diwylliant Cymru wedi’u cyhoeddi gan Adolygiad Celfyddydau Cymru ac Art UK.
Yn flaenorol, mae ei gerddi wedi cael sylw yn Lumin, ac mae’n perfformio ac yn cynnal gweithdai yn gyson o fewn cylchoedd ysgrifennu creadigol a barddoniaeth Caerdydd. Roedd ei rhyddhad digidol cydweithredol Hotel Familiar (2022) yn cynnwys cerddi gyda thrac sain gan y cerddor, Spencer Segelov.
Yn awdur anacademaidd o gefndir dosbarth gweithiol, mae ganddo ddiddordeb yn y straeon dynol y tu ôl i gelf a’i hygyrchedd i gynulleidfaoedd, tra bod rhan o’i swydd bob dydd yn cynnwys trefnu a marchnata digwyddiadau ac ymgyrchoedd llenyddol. Mae’n byw yng Nghaerdydd, tua phum llath ar hugain o ochr anghywir y cledrau.