Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Chris Mann

Rebecca Wilson

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

Plant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Bywgraffiad Cymraeg

Fy enw i yw Rebecca Wilson. (hi/ei). Rwy’n awdur dwyieithog Iddewig a Gymraeg o Eryri, yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Bydd fy llyfr plant cyntaf yn cael ei rhyddhau yn fuan ar 1 Hydref 2024, gan Rily Publishers. Teitl y llyfr yw ‘Gwyl y Gaeaf’, ac yn saesneg ‘The Winter Festival’. Bydd copïau ar gael ym mhob ysgol gynradd ar draws Cymru yn y iaith Gymraeg a Saesneg.

Rwy’n gyffrous fy mod yn cynnal gweithdai ochr yn ochr â rhyddhau fy llyfr o amgylch themâu gwahaniaeth, dathliad, crefydd, ffydd, cysylltedd ac undod.

Gan fy mod hefyd yn actor proffesiynol a hwylusydd theatr mae gen i lawer o brofiad yn cynnal gweithdai, yn enwedig i bobl ifanc. Gallaf redeg gweithdai ysgrifennu creadigol hwyliog yn Gymraeg a Saesneg. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu trwy e -bost!