Dewislen
English
Cysylltwch

Simone Mansell Broome

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolPerfformio BarddoniaethPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Ganwyd Simone yn Ninbych-y-pysgod. Treuliodd ddegawdau yn Lloegr, cyn dychwelyd i Gymru – Sir Gaerfyrddin yn 2007. Cafodd ei gradd B.A. mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd. Mae hi wedi dysgu Saesneg ac EFL mewn addysg uwchradd ac addysg bellach, ac mae hi wedi cymhwyso fel athrawes Lleferydd a Drama hefyd. Mae hi wedi gweithio ym maes marchnata, gwerthu a chysylltiadau cyhoeddus. Mae hi hefyd wedi datblygu ei busnes lletygarwch teuluol ar fferm organig fechan ac wedi bod yn drefnydd priodas am 12 mlynedd.

Mae Simone yn angerddol am yr amgylchedd…a’r llwyfan yn ogystal â’r dudalen. Mae hi wedi cyhoeddi 9 llyfr, barddoniaeth yn bennaf, gan gynnwys ‘Bracing’ – ei chasgliad diweddaraf, ond hefyd cofiant, cyfnodolyn/hunangofiant a ffuglen plant. Mae hi’n gweithio ar ail gofiant, casgliad barddoniaeth newydd a nofel gyntaf. Mae Simone wedi darllen ar lwyfan, mewn siopau llyfrau, ysgolion a llyfrgelloedd, mewn gwyliau, yn Lloegr, Iwerddon ac, wrth gwrs, Cymru, ar Radio 4 a Radio Wales, ac wedi cael cerddi wedi’u comisiynu gan ITV Sport, orielau a grwpiau theatr. Mae peth o’i gwaith wedi’i gyfieithu i’r Rwmaneg. Yn 2024, sefydlodd wasg indie newydd i gyhoeddi eco-flodeugerdd am Afon Teifi – ‘Words on Troubled Waters’. Mae hi’n fegan. Mae hi’n credu mewn hygyrchedd, cyfathrebu a cherddorol, ac mae’n casáu cliques a chronyism.