Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Kay Dennis, 2024

Rudy Harries

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Rudy Harries yn awdur a anwyd ac a fagwyd yn y Cymoedd. Caiff ei waith ei lywio gan ei brofiadau o fod yn anabl, awtistig, cwiar, traws a dosbarth gweithiol. Pan oedd yn blentyn, breuddwydiodd am ddianc o Gymru a’r cyfyngiadau yr oedd yn credu iddi ei rhoi ar ei ddyfodol, ac am gyfnod fe aeth i fyw yng Nghaerfaddon ar gyfer ei astudiaethau israddedig. Fodd bynnag, erbyn iddo fod yn 24 oed roedd wedi dychwelyd adref i Bontypridd, lle mae bellach yn byw gyda’i bartner a’i gath, ar ôl sylweddoli mai Cymru yw lle mae ei galon yn perthyn.

Ers symud yn ôl, mae Rudy wedi cwblhau Gradd Meistr mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan arbenigo mewn dosbarth, tlodi a bod yn gwiar yn y 19eg ganrif. Yn 2020, cyd-sefydlodd Trans Aid Cymru ochr yn ochr â chwithwyr traws eraill, gan weithio i adeiladu rhwydweithiau cymorth ar ffurf cyd-gymorth ar gyfer pobl draws, rhyngrywiol ac anneuaidd mewn tlodi. Fe gamodd yn ôl ar ddiwedd 2022 i wella ar ôl chwythu ei blwc a chanolbwyntio ar ysgrifennu, ac mae ei erthyglau wedi eu cyhoeddi gan Voice Wales, Shado Magazine, The Welsh Agenda a Trans Actual. Weithiau mae Rudy yn cynnal digwyddiadau, o ymweliad Shon Faye â Chaerdydd ar ei thaith lyfr ar gyfer The Transgender Issue i Gwib-ddetio Amlgarwriaethol yn Arcedau Caerdydd. Yn ei amser hamdden, mae Rudy yn hoffi darllen, mynd i’r sinema, ac ysgrifennu yn ei ddyddlyfr bwled.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei nofel gyntaf sy’n canolbwyntio ar gymuned drawsryweddol gynyddol sy’n creu gofod i’w hunain yn y Cymoedd.