Mae Sadia Pineda Hameed yn awdur, artist a golygydd o dras Ffilipinaidd a Phacistanaidd, sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei chrefft fel artist yn cynnwys ysgrifennu barddoniaeth ac arbrofi â rhyddiaith, ynghyd â chreu ffilmiau â thestun, gosodiadau celfyddydol a pherfformio. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio trawma sydd wedi ei etifeddu gennym fel unigolion neu fel cymunedau. Mae Sadia wedi arddangos gwaith gydag Bluecoat, Mosaic Rooms, Artes Mundi, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, g39 WARP, Peak Cymru, Catalyst Arts, Arcade/Campfa, SHIFT, Gentle/Radical, yr Eisteddfod Genedlaethol, HOAX, ac yn fuan gyda MOSTYN a Bluecoat; ac mae wedi cyhoeddi gwaith gyda Poetry Wales, Zarf, Amberflora, Porridge, Wales Arts Review a HOAX ymysg eraill. Derbyniodd Sadia Wobr Awduron Newydd Llenyddiaeth Cymru 2020, Gwobr Rising Star Wales 2020, Paul Hamlyn Award for Artists 2021, ac enwebai Pushcart Prize 2024.
Mae Sadia’n un o sefydlwyr LUMIN (www.lumin-press.com), sef gwasg fechan, grŵp sy’n curadu gwaith, a rhaglen radio sy’n trin a thrafod llenyddiaeth a chelf arbrofol, eithafol a phersonol. Mae Sadia wedi trafod ysgrifennu, cyhoeddi cyfoes ac archifo aml-ddisgyblaethol yn Ruskin – Prifysgol Oxford, Symposiwm Merched Mewn Cyhoeddi Prifysgol Bangor, Symposiwn Archifo Rhywedd Prifysgol Caerdydd, Fforwm ‘Imagination’ Gentle/Radical ymysg eraill.