Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Lisa Owen 2024

Llwyd Owen

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Tiwtor cwrs Tŷ Newydd 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Awdur ffuglen cyfoes a nofelau trosedd arobryn o Gaerdydd.

Cafodd Llwyd ei eni a’i fagu yn y brifddinas, gan fynychu ysgol gynradd Y Wern ac ysgol uwchradd Glantaf, cyn graddio o Brifysgol Bangor ym 1998. Ar ôl teithio’r byd am gwpwl o flynyddoedd ar droad y ganrif, dychwelodd i Gymru gyda’r bwriad o ysgrifennu ‘o leiaf’ un nofel.

Cyhoeddodd Y Lolfa ei nofel gyntaf, FFAWD CYWILYDD A CHELWYDDAU yn 2006, cyn iddo gipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007 am ei ail gyfrol, FFYDD GOBAITH CARIAD.

Dilynodd YR ERGYD OLAF yn 2007, ac yna MR BLAIDD (2009), FAITH HOPE & LOVE (2010), UN DDINAS DAU FYD (2011), HEULFAN (2012), THE LAST HIT (2013), Y DDYLED (2014), TAFFIA (2016), PYRTH UFFERN (2018), IAITH Y NEFOEDD (2019), RHEDEG I PARYS (2020), O GLUST I GLUST (2022) a HELFA (2024).

Mae Llwyd wedi addysgu nifer o gyrsiau ysgrifennu creadigol yn Tŷ Newydd, mae’n gyfieithydd llawrydd profiadol, ac yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymreig.