Dewislen
English
Cysylltwch

DAVID Haworth

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenPerfformio BarddoniaethPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Fy enw i yw David Haworth, a dwi wedi gweithio ym myd theatr ar hyd fy mywyd fel oedolyn. Hyfforddais fel dylunydd theatr, ac yn gynnar yn fy ngyrfa fe ddechreuais ysgrifennu dramâu. Mae llawer o’m dramâu wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol, yn bennaf tra oeddwn yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Chwmni Theatr Forest Forge rhwng 2000 a 2015. Yn 2019, roedd fy nrama, ‘Winter Came’, ar restr hir Gwobr Bruntwood. Symudais yn ddiweddar i ogledd Cymru, rhwng Llangollen a Wrecsam. Rwy’n dal i dreulio amser yn gweithio yn y theatr, ond ers y pandemig Covid dwi wedi arallgyfeirio fel ysgrifennwr ac ysgrifennu nofel, ‘The Absence’ (yn aros i gael ei chyhoeddi), a llawer o straeon byrion, yn ogystal â llên micro a barddoniaeth. Dwi’n darllen ffuglen a barddoniaeth mewn digwyddiadau byw. Dwi wedi cael peth llwyddiant mewn cystadlaethau straeon byrion ac yn hoffi arbrofi gyda phob math o genres yn y cyfrwng hwnnw. Mae gen i brofiad o gynnal grwpiau awduron yn ogystal â gweithdai ysgrifennu stori. Cynhaliais weithdy ysgrifennu stori wythnosol ar gyfer pobl sy’n byw gyda chanser mewn hosbis am ddwy flynedd ar bymtheg a chyflwynais mewn cynadleddau Celfyddydau ac Iechyd am y gwaith arloesol hwn. Mae llawer o’m gwaith theatr yn canolbwyntio ar gymunedau penodol, fel pobl â dementia, neu bobl sy’n byw gyda salwch terfynol, gan roi llais i bobl a dathlu hanes eu bywydau. Rwy’n hoffi gwneud gwaith tosturiol, meddylgar a hardd.