Yn enedigol o Gwmbrân, mae DANIEL MORDEN wedi bod yn storïwr proffesiynol o straeon traddodiadol ers 1989. Mae wedi teithio’r byd yn perfformio ac yn dysgu adrodd straeon. Mae hefyd yn awdur nifer o lyfrau plant ac oedolion ifanc yn seiliedig ar chwedlau traddodiadol. Mae dau o’i lyfrau wedi ennill Gwobr Tir Na N-og Cyngor Llyfrau Cymru. Mae wedi perfformio yn y Theatr Genedlaethol, Canolfan Mileniwm Cymru, Sefydliad Smithsonian (UDA), Gŵyl Awduron Sydney, Gŵyl y Gelli a gwyliau yng Nghanada, UDA, yr Eidal, Norwy, Denmarc, Sweden, yr Almaen, Iwerddon, Kenya, Moroco, Gwlad Belg a Singapôr. Yn 2017 dyfarnwyd Medal Gŵyl y Gelli iddo am ei waith fel storïwr.
Mae wedi dysgu ac adrodd mewn ysgolion yng Nghymru ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ac wedi perfformio i gynulleidfaoedd yn unigol ac fel aelod o The Devil’s Violin. Mae gartref gyda chynulleidfa o dri o bobl fel y mae gyda chynulleidfa o dair mil. Mae ei repertoire yn amrywio o straeon meithrin sy’n seiliedig ar gyfranogiad i Iliad Homer neu’r Mabinogion. Ers nifer o flynyddoedd bu’n dysgu cwrs adrodd straeon preswyl blynyddol i ddechreuwyr yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Gwynedd.