Mae Bethany Handley (hi/ei) yn awdur, bardd ac actifydd Anabl arobryn o Dde Cymru.
Mae gwaith Bethany wedi cael sylw eang ar nifer o blatfformau, gan gynnwys BBC Radio 4, BBC Radio Wales, POETRY, Poetry Wales, The Welsh Agenda a’r Poetry Foundation. Mae ei gwaith yn archwilio’r croestoriadau rhwng natur ac anabledd ac yn herio’r rhwystrau y mae pobl Anabl yn eu hwynebu.
Enillodd Bethany y Wobr Aur am ddarn o ysgrifennu Ffeithiol Greadigol yng ngwobrau’r Creative Future Writers 2023 ac mae hi’n un o’r awduron sydd ar raglen Cynrychioli Cymru 2023 dan arweiniaid Llenyddiaeth Cymru.