Rwy wedi gweithio dros 25 o flynyddoedd fel storïwr mewn gwyliau, ysgolion a theatrau. Cyhoeddais lyfr digidol o chwedlau Cymru a lwyddodd ddod yn ‘best seller’ ar Amazon yn 2015. Bum yn ddigon ffodus cael y cyfle i greu nofel i oedolion ifainc trwy gynllun Leaf by Leaf gyda gwasg Cinnamon. Pig Boy yw enw’r llyfr sydd yn addasiad ffyddlon o hanes Culhwch ac Olwen o’r Mabinogion.
Nid yw Culhwch yn gwneud llawer yn y llawysgrif canoloesol felly penderfynais i ei roi yng nghanol bwrlwm y stori a’i gyflwyno fel prif gymeiriad er mwyn gweld sut byddai’n ymdopi. Yn rhyfedd iawn, ar ôl gwneud hyn nid fi, yr awdur, oedd yn llwyio’r addasiad ond y stori ei hunan! Mae Annwfn (is-fyd rhyfeddol ein cyn-deidiau) yn elfen gref yn y stori ac yn dod â naws hudol a pheryglus i’r hanes. Rwy wedi newid cydbwysedd y stori er mwyn cynnwys rhagor o gymeiriadau benywaidd a rhoi pwyslais ar dirwedd hyfryd Cymru.
Rwy wrth fy modd yn hwyluso creadigrwydd eraill, yn arbennig pobl ifainc. Gweler y wefan hon https://yrawen.wordpress.com/ ar gyfer barddoniaeth a grëwyd gan grwpiau ysgol yn dilyn sesiynau adrodd straeon.