Magwyd Marie Anne Cope ym Manceinion, gan symud i Ogledd Cymru yn 2005, lle mae’n byw gyda’i thair cath, Jasmine, Texas, a Stoker. Hi yw awdur y gyfres dywyll oruwchnaturiol BONDS, y gyfres stori fer arswyd TALES FROM A SCARYGIRL, ac, o dan yr enw pen M. A. Cope, cyfres THE MISFITS i blant. Ar Galan Gaeaf 2023 cyhoeddodd Marie y gyfrol gyntaf yn ei chyfres gyffro trosedd oruwchnaturiol Ellie Lawrence, THE HEADHUNTER, canran o’r breindaliadau y mae’n eu rhoi i Gymdeithas Alzheimer a Dementia UK er anrhydedd i’w thad. Mae Marie yn olygydd datblygiadol ac wrth ei bodd yn helpu awduron eraill i lunio eu nofelau. Mae hi hefyd yn mwynhau siarad am ei llyfrau ac ysgrifennu bywyd mewn llyfrgelloedd, siopau llyfrau ac mewn mannau eraill, yn ogystal â rhannu ei hagwedd at gynllunio ac ysgrifennu nofelau trwy weithdai neu gyrsiau byr.