Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Garland Stone Productions Ltd

John Washbourne

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae John Washbourne yn dod o ororau Cymru, cartref ysgrifennwyr megis Arthur Machen, a oedd un o arloeswyr llenyddiaeth arswyd a ffantasi yn y ganrif ddiwethaf.

Mae gan John gefndir yn dosbarthu fideo wnaeth ehangu ei wybodaeth am brosiectau arswyd a ffantasi. Wnaeth hyn sbarduno diddordeb John yn y genre, ac fe astudiodd chwedloniaeth Prydeinig, Celtaidd a chwedloniaeth byd-eang. Mae’r diddordebau yma yn ganolog i waith ysgrifennu John.

Cyd-ysgrifennodd John brosiectau ffilm a nofelau gyda Dewi Griffiths yn Garland Stone Productions.
Ymhlith y nofelau mae, Blood Eagle, Away Game, Witch Sight, a Black Valley oedd ar un adeg yn brosiect ffilm yng Ngymru.
Ar y funud, mae John yn gweithio ar ei ail nofel Witch Sight gyda Dewi Griffiths, nofel wedi ei selio yn Nylun.

Mae holl lyfrau Garland Stone yn gyfoes, wedi eu selio mewn chwedloniaeth. Lleolir y storiau yng Ngymru, yr Iwerddon a gogledd Ewrop.

Mae John yn nodadwy ym myd cleddyfa rhyngwladol, ac yn un o sylfaenwyr The Academy of Historical Fencing.