Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Llŷr Titus

Llŷr Titus

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Llŷr Titus yn awdur, ymchwilydd a dramodydd o Lŷn. Mae’n un o sylfaenwyr Cyhoeddiadau’r Stamp a chwmni theatr cymunedol Y Tebot. Mae’n ysgrifennu yn genres ffuglen wyddonol, ffantasi a realaeth ac mae ei waith yn trafod hunaniaeth, themâu LHDTC+, perthynas pobl hefo lle a chynefin. Enillodd ei nofel gyntaf i oedolion ‘Pridd’ wobr Llyfr y Flwyddyn 2023 a chyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf ‘Anfadwaith’ sy’n nofel ffantasi dywyll yng Ngorffennaf 2023. Mae hefyd wedi ysgrifennu nofel ffuglen wyddonol i bobl ifanc ‘Gwalia’ a’r gyfrol ‘Dathlu’r Deugain’ – cyfrol yn trafod hanes cwmni Theatr Bara Caws. Derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru yn 2020.