Mae Laura Fisk yn seicolegydd clinigol, yn fardd ac yn gyfieithydd o Fôn.
Ymhlith ei chyhoeddiadau mae casgliadau llawn sydd wedi’u cyfieithu i’r iaith Estoneg gan Ilmar Lehtpere (Puid puudutada, Allikaäärne), a Macedoneg gan Julijana Velichkovska (Coronavirus Chronicles – Коронавирус Хроники, PNV Publikacii). Mae ei cherddi wedi ymddangos yn Dwelling During the Pandemic a olygwyd gan Zoë Brigley a Syndic Literary Journal, ac mae hi hefyd wedi cyhoeddi gweithiau ffuglen yn Confluence.
Cyhoeddir ei chyfieithiad o gasgliad o gerddi Elin ap Hywel, Dal i Fod – Still Here, gan Broken Sleep Books. Mae ei chyfieithiadau wedi ymddangos yn Modern Poetry in Translation, Modron Magazine a Syndic.