Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Photo Credit: Dan Maslanka

Carys Shannon

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenAdrodd StoriPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Daw Carys Shannon yn wreiddiol o gefn gwlad Gogledd Gŵyr yn Abertawe ac mae bellach yn gweithio rhwng Cymru a Sbaen fel awdur, hwylusydd gweithdai a hyfforddwr creadigrwydd. Astudiodd Ddrama ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd ymlaen i weithio fel cynhyrchydd i National Theatre Wales, Volcano a phrosiectau celfyddydol eraill sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol. Yn 2013, ysgrifennodd a pherfformiodd Carys I’m Listening — A Case for Empathy, darn unigol yn seiliedig ar alar a gwrando gweithredol. Mae hi’n gweithio’n rheolaidd gyda phobl ifanc gan hwyluso gweithdai sy’n canolbwyntio ar fynegi ac ehangu creadigrwydd personol, gan gydweithio’n aml gyda Macmillan Education.
Yn 2017, graddiodd Carys o Brifysgol De Cymru gydag MPhil mewn Ysgrifennu ac mae wedi cyhoeddi straeon byrion mewn blodeugerddi gan Honno Press a Parthian Books, yn ogystal â Mslexia Magazine. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2021 a Gwobr Terry Hetherington 2012. Mae ei chyhoeddiadau ffeithiol yn cynnwys cylchgrawn Womankind, YES Magazine a International House Journal.
Enillodd nofel gyntaf Carys grant datblygu Llenyddiaeth Cymru ac mae wedi cyrraedd rhestr hir y Bath and Mslexia Novel Awards ac ar restr fer y Caledonia Novel Award. Yn 2020, enillodd y nofel hon Wobr y Jericho Writers Festival of Writing ac mae wedi ei chyflwyno ar hyn o bryd.