Dewislen
English
Cysylltwch

Dylan Huw

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Dylan Huw (g.1996, Aberystwyth) yn gweithio yn y byd celfyddydol, ran amlaf fel sgwennwr a churadur. Mae ei sgwennu ar gelf gyfoes yn ymddangos yn Artforum, O’r Pedwar Gwynt, Frieze, Art Monthly a Barn, lle mae ganddo golofn ar gelfyddydau digidol ers 2020. Roedd yn Sgwennwr Preswyl gyda Jerwood yn 2022, a cyrhaeddodd rhestr fer yr International Award for Art Criticism (IAAC8) yr un flwyddyn. Mae straeon byrion ac ysgrifau ganddo wedi eu cynnwys yn Queer Square Mile (2022, Parthian), Just So You Know (2020, Parthian) a Dim Eto (2019, Cyhoeddiadau’r Stamp). Yn 2022-3, roedd yn Gymrawd Cymru’r Dyfodol gyda’r Cyngor Celfyddydau a Chyfoeth Naturiol Cymru. Astudiodd yn King’s College London a choleg Goldsmiths, lle cyflawnodd radd feistr mewn Theori Celf Gyfoes yn 2018. Mae bellach yn byw a gweithio yng Nghaerdydd.