Awdures hunan-gyhoeddedig ydy Kell Willsen sy’n ysgrifennu nofelau, barddoniaeth ac ambell draethawd. Ar ôl llawer o flynyddoedd yn teithio rhwng Cymru a Lloegr, mae hi bellach wedi dychwelyd i Ynys Môn.
Yn ychwanegol i Saesneg, mae Kell yn rhugl mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac o dipyn i beth mae hi wrthi’n dysgu Cymraeg, Sbaeneg, a Japaneaidd.
Mae Kell wedi ei magu mewn dau ddiwylliant, a chael profiad o lawer o ddiwylliannau eraill. Mae pob diwylliant yn gweld y byd trwy lygaid gwahanol, ac mae ffuglen yn ein hannog i agor ein meddyliau i ffyrdd eraill o ddeall pethau. Mae hyn wedi ei hysbrydoli i ysgrifennu nofelau ffantasi llenyddol.
Mae nofelau Kell Willsen, Earther 27 a The Avlem Burden bellach ar werth o Waterstones ac Amazon. Bydd y llyfr nesaf ar gael yn 2025.