David Ebsworth yw ffugenw’r trefnydd undeb sydd wedi ymddeol – Dave Mccall. Cafodd ei eni’n Lerpwl ond mae’n byw yn Wrecsam, gogledd Cymru, ers 1981, mae’n ysgrifennu straeon hanesyddol cyffrous yn erbyn cefndiroedd amrywiol fel Prydain yn y Chweched Ganrif a Rhyfel Cartref Sbaen. Mae Trioleg Yale yn adrodd hanes ffigwr enwog o hanes Cymru, Elihu Yale – ond adroddir yr hanes drwy lygaid ei wraig sy’n destun llawer o enllib, Catherine. Tra bod ei nofel o 2022, The House on Hunter Street, yn adrodd hanes teulu Cymreig ffuglennol sy’n ymwneud â helbul gwleidyddol yn Lerpwl ym 1911. Mae David yn siaradwr poblogaidd a diddorol sy’n trafod cefndir ei lyfrau mewn llyfrgelloedd, clybiau llyfrau a lleoliadau eraill hefyd. Ei nofel yn 2023 yw “Blood Among The Threads” – stori drosedd hanesyddol a osodwyd yn Wrecsam yn ystod 1876, ac mae’r dilyniant, “Death Along The Dee” (Tachwedd 2024) wedi’i osod yn Wrecsam a Chaer yn ystod 1884.