Dewislen
English
Cysylltwch

Brian John

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

English 

Ffurf

FfuglenFfeithiol 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Ganed Dr Brian S. John (1940) yng Nghaerfyrddin ac mae’n fwyaf adnabyddus fel awdur yr Angel Mountain Saga, ffuglen hanesyddol wyth cyfrol sydd bellach wedi cronni gwerthiant (ym mhob cyfrwng) o dros 110,000. Mynychodd Goleg Iesu, Rhydychen, lle bu’n darllen Daearyddiaeth o 1959 i 1962 ac aeth ymlaen i ennill D Phil ar gyfer astudiaeth o Oes yr Iâ yng Nghymru. Bu’n gweithio fel gwyddonydd maes yn Antarctica a threuliodd un mlynedd ar ddeg fel darlithydd daearyddiaeth ym Mhrifysgol Durham. Mae wedi teithio’n eang yn yr Arctig, yr Antarctig a Sgandinafia. Ers 1977 mae wedi gwneud ei fywoliaeth fel awdur a chyhoeddwr. Ym 1980 sefydlodd Canolfan Eco Cymru yng Nhrefdraeth ac mae’n un o arweinwyr y grŵp cymunedol GM Free Cymru. Mae’n awdur erthyglau di-rif a mwy na 90 o lyfrau, gan gynnwys testunau prifysgol, canllawiau cerdded, llyfrau bwrdd coffi, a llyfrau gwyddoniaeth boblogaidd. Roedd ei werslyfr prifysgol Glaciers and Landscape (a ysgrifennwyd gyda David Sugden), mewn print fel clasur geomorffoleg am bron i 30 mlynedd. Mae hefyd yn ysgrifennu ar bynciau o ddiddordeb lleol yn ymwneud â Chymru: arweinlyfrau twristiaid, llyfrau jôcs lleol, llawlyfrau cerddwyr, a theitlau ar lên gwerin a thraddodiadau lleol. Yn 2012 enillodd y Wishing Shelf Book Award am ei lyfr plant o’r enw The Strange Affair of the Ethiopian Treasure Chest. I gydnabod ei gyfraniadau i geomorffoleg begynol, enwyd rhewlif ym Mynyddoedd Pensacola yn Antarctica yn John Glacier. Mae nofel Acts of God (a gyhoeddwyd hefyd fel Icefall Zero) wedi’i gosod yn yr Ynys Las yn ystod y Rhyfel Oer. Mae Brian wedi gwneud gwaith radio a theledu sylweddol, wedi ymddangos ar raglen BBC2 Cymru o’r enw The Man from Angel Mountain ac ar raglen One Show BBC1. Mae hefyd yn flogiwr hirbarhaol ar Gôr y Cewri ac Oes yr Iâ; mae gan ei flog 3200 o bostiadau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a bron i 2 filiwn o drawiadau gan ddilynwyr. Ar hyn o bryd mae’n gweithio i ddod ag addasiad o’i Saga hanesyddol (a osodwyd yng ngogledd Sir Benfro yn oes y Rhaglywiaeth) i’r sgrin fach.