Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Pamela Petro

Pamela Petro

Lleoliad

Canolbarth Cymru

Iaith

English 

Ffurf

Ffeithiol 

Tagiau

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Enw llyfr diweddaraf Pam — llyfr ei chalon a’i hiraeth , a gymerodd 9 mlynedd i’w ysgrifennu ac a wrthodwyd gan 9 asiant a 19 cyhoeddwr cyn cael ei dderbyn o’r diwedd gan Little Toller Books!– yw The Long Field – Wales and the Presence of Absence, a Memoir. Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 a’i henwi fel un o lyfrau taith gorau’r flwyddyn gan The Financial Times a The Telegraph. Americanes yw Pam, ond mae wedi bod yn dod i Gymru ers iddi fynychu ysgol raddedig yn Llanbedr Pont Steffan yn yr 1980au, ac mae bellach yn gweithio’n rhan amser yng Nghymru fel Cyd-gyfarwyddwr (gyda Dominic Williams) Ysgol Haf Dylan Thomas mewn Ysgrifennu Creadigol. Mae Pam hefyd yw awdur Travels in an Old Tongue, Sitting up with the Dead, a The Slow Breath of Stone, yn ogystal â llawer o ysgrifau ac erthyglau. Mae hi hefyd yn artist gweledol, yn creu gosodiadau ffotograffiaeth gyda geiriau, delweddau, a charreg.