Mae Rebecca Thomas yn awdur a hanesydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Enillodd ei hysgrif ‘Cribo’r Dragon’s Brack’ gwobr ysgrif O’r Pedwar Gwynt (2021). Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion ifanc Dan Gysgod y Frenhines gan Wasg Carreg Gwalch yn 2022. Astudiodd hanes ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn mynd ymlaen i ennill Doethuriaeth ym maes astudiaethau canoloesol yno. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Cyhoeddwyd ei monograff ar hunaniaeth ganoloesol History and Identity in Early Medieval Wales gan Boydell & Brewer yn 2022 ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar wahanol agweddau ar y Gymru ganoloesol.