Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Image Copyright Lisa Tulfer 2021

Lisa Tulfer

Lleoliad

Canolbarth Cymru

Iaith

English 

Ffurf

Ffeithiol 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Lisa Tulfer yn awdur a blogiwr llawrydd. Mae’n arbenigo mewn erthyglau ffeithiol – hanes ac ysgrifennu am leoedd yn bennaf – ac mae hefyd yn ysgrifennu barddoniaeth achlysurol. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi yn The Pilgrim, The Cardiff Review, The Earth Pathways Diary, The Redemptorist Press a Poetry Archive Now ac mae hi wedi blogio fel blogiwr gwadd ar gyfer Green Ink Poetry a Liza Achilles. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei llyfr cyntaf.

Yn 2021 ymunodd Lisa â bwrdd golygyddol Cylchgrawn Llenyddol Full House fel golygydd cyflwyniadau.

Ochr yn ochr â’i gwaith ysgrifennu, mae Lisa’n gyfieithydd llawrydd, sy’n cyfieithu o’r Iseldireg i’r Saesneg ac yn arbenigo mewn hanes, achyddiaeth, y celfyddydau a chyfieithu llenyddol.

Mae diddordebau Lisa yn cynnwys ffotograffiaeth (yn enwedig mono), celf decstilau (gwehyddu), gwneud printiau linocut, motiffau’r Tair Ysgyfarnog a’r Dyn Gwyrdd, mapiau, adfeilion mynachlogydd canoloesol, a hanes o ran sut roedd pobl yn byw a’r tai yr oeddent yn byw ynddynt. Mae hi’n hoffi coginio, bwyta, gwrando ar y radio, gwau a darllen (llyfrau ffeithiol yn bennaf, ffuglen trosedd yr Oes Euraidd, a chylchgronau llenyddol). Yn hanner Cymraeg a hanner Iseldiraidd, mae hi’n byw ar ffin Powys/Swydd Henffordd ar hyn o bryd.