Bardd, newyddiadurwr, academydd a ffermwr lafant o Abertawe yw Rae Howells. Cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf, The language of bees (Parthian), restr fer Llyfr y Flwyddyn 2023. Mae hi eisoes wedi ennill cystadleuaeth barddoniaeth Nature and Place Y Rialto, a chystadleuaeth rhyngwladol barddoniaeth Cymru ac hefyd wedi ymddangos mewn cyfnodolion gan gynnwys Magma, The Rialto, Poetry Wales, New Welsh Review, Acumen a Poetry Ireland. Fel amgylcheddwraig frwd, mae Rae yn credu yng ngrym adferol lleoedd gwyllt, ac mae’n fardd preswyl yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli. This Common Uncommon yw ei hail gasgliad barddoniaeth. Gallwch ei chlywed yn darllen ei gwaith yn www.iambapoet.com/rae-howells , a gallwch ddarllen mwy o’i barddoniaeth a’i newyddiaduraeth ar ei safle we, raehowells.co.uk.