Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Ann Marie Thomas

Ann Marie Thomas

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiol 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Ann Marie yn ysgrifennu barddoniaeth, a chreu storïau, ers ei phlentyndod, ond dim ond ar ôl i’w phlant dyfu aeth ati i gyhoeddi ei gwaith. Ei huchelgais oedd ysgrifennu ffuglen wyddonol, ond cafodd ei swyno gan Gastell Abertawe, a thra’n ymdopi âg anhawsterau strôc fawr, aeth ati i ymchwilio hanes yr ardal leol. Arweiniodd hyn at gyhoeddi ei chyfrol gyntaf, ar adeg y Pasg 2012, sef Alina, The White Lady of Oystermouth, nofel wedi’i seilio ar hanes yr ardal. Yn dilyn hynny, rhoddodd ymddeoliad cynnar fwy o amser iddi ganolbwyntio ar ei hysgrifennu.
Wedi iddi werthu dros 300 copi o Alina mewn siopau ac amgueddfeydd lleol ac mewn digwyddiadau annerch, ysgrifennodd ail lyfr am hanes yr ardal leol a gyhoeddwyd ym Medi 2013, sef Broken Reed: The Lords of Gower and King John. Cyhoeddwyd ei thrydydd llyfr, The Magna Carta Story: The Layman’s Guide to Magna Carta ar adeg y Pasg, 2015. Mae Medieval Gower Stories yn gasgliad o ddeg o straeon eraill a ddarganfyddodd Anne wrth iddi ymchwilio, a chyhoeddwyd y llyfr hwn yn Hydref 2017. Fe’i ddilynwyd gan ei chyfrol ddiweddaraf, Swansea Miracle, ym mis Ionawr, 2022.
Wrth iddi ddod dros effeithiau ei strôc, ysgrifennodd Anne farddoniaeth, a chyhoeddwyd y cerddi hyn mewn cyfrol o’r enw My Stroke of Inspiration yn Awst 2015, casgliad syndod o siriol ei naws. Mae hi’n parhau i ysgrifennu ffuglen wyddonol, a chyhoeddwyd cyfres o’r enw Flight of the Kestrel, a chyfrol o’r enw Intruders yn Ebrill 2016. Cyhoeddwyd yr ail gyfrol, Alien Secrets, yn Hydref 2018, a’r drydedd, Crisis of Conscience, ym Mehefin 2021. Cadwch olwg am y pedwerydd llyfr, Planet Fail.
Mae Ann hefyd wedi cyhoeddi llyfr sy’n cynnig cymorth o safbwynt Gristnogol, Blinded by the Light.