Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Trina Layland

Alison Layland

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Derbynnydd Cynllun Mentora 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Alison Layland yn awdur ffuglen, cyfieithydd a golygydd, sydd wedi dweud straeon wrthi’i hun ers iddi fedru cofio – er dechreuodd eu cofnodi i eraill eu darllen pan symudodd i Gymru i fyw yn 1997 ac arweiniodd dosbarthiadau Cymraeg i ddosbarthiadau ysgrifennu creadigol.
Mae hi’n awdur dwy nofel, Someone Else’s Conflict (2014) a Riverflow (2019) a gyhoeddir gan Wasg Honno. Mae hi hefyd yn ysgrifennu straeon byrion a llên meicro, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac enillodd gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Tŷ Ddewi yn 2002. Ymddangosodd ei stori fer Quirky Robbers yng nghasgliad Cast A Long Shadow a gyhoeddwyd gan Honno yn 2023.
Mae hi’n cyfieithu o’r Almaeneg a’r Ffrangeg i’r Saesneg, a rhwng y Saesneg a’r Gymraeg, ac mae ei chyfieithiadau’n cynnwys nifer o nofelau poblogaidd ac arobryn. Enillodd Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu-Oxfam Cymru 2010 gyda chyfieithiad o stori fer gan yr awdur o Haiti, Yanick Lahens, a arweiniodd iddi gyfieithu ei nofel, La Couleur de l’Aube (The Colour of Dawn), a gyhoeddwyd yn 2013 gan Seren. Mae hi hefyd yn golygydd ffuglen llawrydd.
Fel aelod o gydweithfa Crime Cymru, mae hi’n cyfrannu tuag at drefnu Gwobr Nofel Gyntaf y grŵp hwnnw, a Gŵyl Crime Cymru Festival.
Pan nad ydi hi wrthi’n ysgrifennu, adra yn y gororau neu yn y cwch mae hi’n rhannu gyda’i merch ar gamlas Llangollen, mae hi’n ymgyrchu’n frwd dros yr amgylchedd, ac yn ymwneud â sawl prosiect cymunedol lleol gyda’r canolbwynt ar gynaliadwyedd a’r byd natur.