Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Robat Gruffudd

Robat Gruffudd

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiol 

Tagiau

Bywgraffiad Cymraeg

Maged yn Abertawe ac aeth i’r brifysgol ym Mangor, lle sefydlodd y cylchgrawn dychanol Lol gyda Penri Jones. Ym 1967 sefydlodd wasg Y Lolfa yn Nhal-y-bont, Ceredigion, fel cwmni argraffu a chyhoeddi. Cyhoeddodd bedair o nofelau (dwy yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen), dwy gyfrol o farddoniaeth, a dyddiadur hanner canrif, Lolian. Mae Robat yn parhau i weithio i’r Lolfa, sydd bellach yn cael ei rhedeg gan ddau o’i feibion, Garmon a Lefi Gruffudd.