Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Clive Hicks-Jenkins

Peter Wakelin

Lleoliad

Canolbarth Cymru

Iaith

English 

Ffurf

Ffeithiol 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Yn enedigol o Abertawe, mae Peter Wakelin yn awdur, curadur ac ymgynghorydd annibynnol sy’n ysgrifennu am hanes, treftadaeth adeiledig, celf a thirwedd. Astudiodd ym mhrifysgolion Rhydychen, Birmingham a Wolverhampton a chyn hynny roedd yn Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac yn Gyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn Amgueddfa Cymru.

Mae wedi ysgrifennu nifer o erthyglau, catalog o draethodau a monograffau am artistiaid yng Nghymru, gan gynnwys: Worktown: The Drawings of Falcon Hildred (2012), Roger Cecil: A Secret Artist (2017), Charles Burton: Painting Still (2019), Sally Moore : Acting Up (2019) a George Little: The Ugly Lovely Landscape (2023). Llyfrau eraill am agweddau ar hanes celf yw: Romancing Wales: Romanticism in the Welsh Landscape since 1770 (2016), Ffiniau: Pedwar Artist yn Border Country Raymond Williams (2016), Ddoe + Heddiw: 80 Mlynedd o Gasglu Celfyddy Gyfoes Cymru (2018), Refuge and Renewal: Migration and British Art (2019) a Hill-rhythms: David Jones + Capel-y-ffin (2023).

Mae ei lyfrau ar hanes a threftadaeth adeiledig yn cynnwys y canllawiau swyddogol i safleoedd Treftadaeth y Byd Blaenafon a Phontcysyllte, Tysorau Cudd: Darganfod Treftadaeth Cymru (golygwyd gyda R. A. Griffiths, 2008), War Underground: Memoirs of a Bevin Boy in the South Wales Coalfield by Michael Edmonds (2013) a rhifyn newydd o Miner’s Day gan B. L. Coombes gyda lliniau Rhondda gan Isabel Alexander (2021).