Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Joachim Froese

Angela Gardner

Lleoliad

Y tu allan i Gymru

Iaith

English 

Ffurf

Barddoniaeth 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Ganed ac addysgwyd ANGELA GARDNER yng Nghaerdydd. Mae hi wedi cyhoeddi chwe chasgliad unigol o farddoniaeth, yn fwyaf diweddar nofel ar ffurf barddoniaeth o’r enw The Sorry Tale of the Mignonette, a gyrhaeddodd restr fer Wales Book of the Year yn 2022, ac argymhelliad ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth y DU 2021, Some Sketchy Notes on Matter (Recent Work Press, Awstralia, 2020), a The Told World (barddoniaeth ddethol) Shearsman Books, DU, 2014. Ymhlith gwobrau a chomisiynau eraill mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Churchill, Gwobr Farddoniaeth Thomas Shapcott, a phreswyliadau a chyllid prosiect Cyngor Awstralia. Mae ei cherddi diweddar wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Ysgrifennu Creadigol Aesthetica International a rhestr hir Gwobr Barddoniaeth Ryngwladol Live Canon. Mae hefyd wedi eu cyhoeddi yn The Edge of Necessary: Welsh innovative poetry 1966-2016 yng Nghymru; The Yale Review a West Branch yn UDA; Blackbox Manifold, The Long Poem a Tears in the Fence yn y DU; Plumwood Mountain, Westerley, Southerly, Rabbit a Cordite yn Awstralia. Ar ôl byw yn Awstralia am flynyddoedd, mae hi bellach yn byw yng Ngorllewin Cork yn Iwerddon. Mae hi’n artist gweledol gyda gwaith mewn casgliadau cyhoeddus rhyngwladol.