Mae Ann Brady, er iddi gael ei geni yn Swydd Efrog, bellach yn byw ym Mae Caerdydd. Mae hi wedi bod yn awdur ers dros ddeugain, gan weithio mewn amrywiaeth o arddulliau a genres ffeithiol a ffuglen. Mae Ann wedi ysgrifennu ar gyfer Gwefannau, Cylchgronau Rhyngwladol/Cenedlaethol, Erthyglau Golygyddol a llyfrynnau Addysg Safon Uwch. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu nofel hanesyddol wobrwyedig, cyfres o lyfrau straeon lluniau i blant ynghyd â llyfrau mewn genres eraill.
Yn ystod ei gyrfa, datblygodd Ann raglen fentora i gynorthwyo pobl fusnes â’u galluoedd ysgrifennu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi addasu hyn, gan greu www.mentoringwriters.co.uk, sefydliad sydd â’r nod o helpu awduron newydd, rhai sy’n datblygu a rhai sefydledig i hogi eu sgiliau ysgrifennu. Mae hi’n gweithio gydag awduron o bob oed ledled y byd. I’r awduron hynny dan 18 oed, mae Ann wedi mentora dan faner kids4kids.org.uk, gan fynd â rhai o’r bobl ifanc hyn ar eu taith ysgrifennu hyd at, a gan gynnwys cyhoeddi.
Dros y blynyddoedd, mae Ann wedi ymhel â Barddoniaeth o bryd i’w gilydd, ar ôl ennill ychydig o gystadlaethau barddoniaeth. Er mai ysgrifennu oedd ei chariad pennaf, mae Ann yn dal i fwynhau rhannu ei gwybodaeth o’r byd ysgrifennu ag eraill ac erbyn hyn mae hi’n cael ei hadnabod fel cymwynaswraig ar gyfer darpar awduron.