Mae Sophie Buchaillard yn hoff o lyfrau, natur a choffi, wedi’i magu yng nghymer traddodiadau diwylliannol nad oedd hi’n eu deall yn llawn wrth dyfu i fyny. Yn ddeunaw oed, gan deimlo’n ddarniog, gadawodd Baris i deithio, gan setlo bum mlynedd yn ddiweddarach yn ne Cymru lle mae hi wedi byw ers 25 mlynedd. Mae Sophie yn ysgrifennu ffuglen gyfoes am hunaniaeth; llenyddiaeth teithio a ysbrydolwyd gan ei theulu crwydrol. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf This Is Not Who We Are (Seren) rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2023.
Roedd Sophie yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2023, ac yn Aelod o Fwrdd The Other Side of Hope Magazine, cylchgrawn sydd yn arddangos gweithiau creadigol ffoaduriaid.
Mae ei straeon byrion a’i thraethodau wedi ymddangos yn ByLine Times, Wales Arts Review, Murmurations Magazine, the Other Side of Hope a Square Wheel Press ac mae hi’n gyfrannwr i An Open Door: New Travel Writing for a Precarious Century (Parthian). Mae ei ail llyfr Assimilation (Honno) yn cael ei ryddhau ym mis Chwefror 2024.
Yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, mae Sophie yn frwd dros rymuso eraill i ysgrifennu. Mae hi’n rhannu ei hamser rhwng ysgrifennu, tiwtora mewn ysgrifennu creadigol.
Wedi’i hyfforddi’n wreiddiol fel gwyddonydd gwleidyddol, mae Sophie wedi gweithio fel cynghorydd polisi ac ymgyrchydd. Yn 2016, roedd hi’n gyd-awdur Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus, adroddiad yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn busnes ac addysg.