Ers graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae Rebecca wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd.
Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o’i gwaith, Eat. Sleep. Rage. Repeat, ei chyhoeddi gan Gomer yn 2020.
Enillodd ei thrydedd nofel, #Helynt, y Wobr Tir na n-Og 2021 a chategori Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn 2021, ac mae bellach yn nofel osod ar faes llafur TGAU Llenyddiaeth Cymraeg CBAC. Bellach, mae Rebecca yn awdur deg nofel gyfoes i oedolion a phobl ifanc, ac mae wedi addasu rhai o’i llyfrau Cymraeg ar gyfer y farchnad Saesneg. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol am ei ffuglen, gan gynnwys Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2017. Yn ogystal ag ysgrifennu nofelau, mae Rebecca yn adolygu llyfrau ac yn cynnal seremoniau di-grefydd a gweithdai creadigol. Mae hi’n byw ym Mhrestatyn, gyda’i gŵr a phlant. Hi yw arweinydd Sgwad Sgwennu’r Ifanc Conwy 2024, ar ran Llenyddiaeth Cymru.