Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Mary Annes Payne

Mary Annes Payne

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Bywgraffiad Cymraeg

Enillodd Mary Annes Payne y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn 2007 gyda Rhodd Mam, gyhoeddwyd gan Wasg Gomer. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi nofela, Hogyn Syrcas, a ddaeth yn agos i ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002, hefyd wedi ei chyhoeddi gan Wasg Gomer, yn 2003. Daeth yn drydydd mewn cystadleuaeth stori fer genedlaethaol a noddwyd gan Gwmni Teledu Boomerang yn 2006 hefo’i stori fer, Sgrech. Cyhoeddwyd hon yn Nhaliesin, ac mae hi wedi cyhoeddi stori fer arall, Uchder Bol Camel, yn Nhaliesin.
Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn gweithio yn Saesneg. Cafodd ei nofel, Madeleine, ei rhoi ar restr fer Cystadleuaeth Richard and Judy Search for a Bestseller yn 2019, ac ar restr hir cystadleuaeth y Bath Novel Award ac y Blue Pencil First Novel Award yn 2020, a chystadleuaeth y Yeovil Novel Prize yn 2021. Rhoddwyd ei novel, The Girl Who Can’t Read, ar restr hir Cystadleuaeth y Mslexia Novel Award yn 2020. Hefyd mae dwy o’i storїau byrion wedi eu rhoi yn rhestr hir cystadleuaeth stori fer Frome.
Mae’n frodor o Frynsiencyn, Ynys Môn, graddiodd o Brifysgol Cymru, Bangor, gyda B.Add ag Anrhydedd, gweithiodd fel athrawes gynradd ym Môn, symudodd i’r Alban a gweithiodd fel tiwtor iaith Saesneg i ffoaduriaid Fietnamaidd ac i fab i lysgennad o Nigeria, dychwelodd i Gymru a gweithiodd fel athrawes gynradd ym Maldwyn a Môn, ac ail-hyfforddodd gydag Uned Dyslecsia Bangor a gweithiodd gyda phlant ag anawsterau dysgu arbennig yn Ynys Môn.
Yn awr mae’n byw yn Ynys Môn, yn agos i’w man genedigol.