Ganed Darren Chetty yn Abertawe. Mae’n awdur, yn athro ac yn ymchwilydd. Mae wedi cyhoeddi gwaith academaidd ym meysydd athroniaeth, addysg, hiliaeth, llenyddiaeth plant a diwylliant hip-hop. Mae’n un o gyfrannwyr y gyfrol nodedig, The Good Immigrant, a olygwyd gan Nikesh Shukla (Unbound).
Darren yw cyd-awdur What is Masculinity? Why Does It Matter? And Other Big Questions (Wayland) gyda Jeffrey Boakye. Mae hefyd yn gyd-awdur How To Disagree: Negotiating Difference in a Divided World (Quarto) gydag Adam Ferner. Cyd-olygodd Critical Philosophy of Race and Education (Routledge) gyda Judith Suissa. Mae Darren yn ysgrifennu colofn reolaidd yng nghylchgrawn Books for Keeps ar y cyd â Karen Sands O’Connor, ble maent yn archwilio cynrychiolaeth cymeriadau sydd wedi’u lleiafrifo’n hiliol mewn llenyddiaeth i blant ym Mhrydain.
Mae Darren yn olygydd cyfrannol i Welsh (Plural), casgliad o ysgrifau a gyhoeddir ym Mawrth 2022 gan Repeater.