Cafodd Claire Boot ei geni yng Nghaerdydd ac mae’n byw ym Mhenarth. Mae ei phrosiectau diweddar yn cynnwys drama sain ar gyfer ‘Heart of Cardiff’ gyda Theatr y Sherman a thaith gerdded stori safle-benodol ar gyfer ‘Barry – Making Waves’. Yn 2020, comisiynwyd Claire gan Llenyddiaeth Cymru i greu ‘Write At Home’, cyfres o bymtheg fideo byr gan ddefnyddio eitemau cartref fel ysgogiadau ar gyfer ysgrifennu creadigol. Mae hi’n ysgrifennu sgriptiau a barddoniaeth ar gyfer Big Start Assemblies, yn cyflwyno gweithdai creadigol ar gyfer Ffordd Pererindod Penrhys ac yn ysgrifennu astudiaethau achos ar gyfer TicketSource. Mae ei ffuglen rhyddiaith yn ymddangos ym mlodeugerddi National Flash Fiction Day a’r Bath Flash Fiction Award, ac mewn blodeugerdd ffuglen trosedd sydd wedi ei gyhoeddi gan Honno yn 2022. Mae Claire yn dysgu Cymraeg.