Cefais fy ngeni ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ar ôl cyfnod yn Abertawe, Caerdydd a Mecsico, dw i nôl yn fy nhre enedigol yn magu dau o blant gyda fy ngŵr Gwyn. Dw i wedi cyhoeddi dwy gyfrol o gerddi a thair nofel i blant yn ogystal ag addasu nifer o lyfrau i’r Gymraeg. Dw i’n gweithio fel cyfieithydd, isdeitlydd, golygydd ac awdur llawrydd.