Mae Daniel Morden yn storïwr ac yn awdur proffesiynol ers 1989. Er ei fod yn byw yn y Fenni, mae ei waith wedi mynd ag ef i bedwar ban byd, o gymunedau anghysbell yr Arctig i Ŵyl Awduron Sydney. Mae wedi ysgrifennu llawer o lyfrau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys So Hungry a The Adventures of Odysseus. Enillodd ei lyfrau Dark Tales from the Woods a Tree of Leaf and Flame Wobr Tir nan-Og . Yn 2017 dyfarnwyd Medal Gŵyl y Gelli iddo. Mae wedi’i gofrestru fel Ymarferydd Creadigol ac mae’n addysgu ac yn perfformio’n rheolaidd mewn ysgolion.