Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Aled Rhys Jones

Marged Tudur

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

Barddoniaeth 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur 

Bywgraffiad Cymraeg

Daw Marged Tudur o Ben Llŷn yn wreiddiol ond bellach mae’n byw yng Nghaernarfon. Graddiodd mewn Cymraeg o Brifysgol Aberystwyth yn 2014 cyn dilyn cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol a PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth. Derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru yn 2019, a chyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Mynd, yn 2020 a enillodd wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2021. Bu’n gweithio fel golygydd yng Ngwasg y Lolfa ac mae bellach yn darlithio Cymraeg yng Ngholeg Meirion Dwyfor.