Mae Grahame Davies yn fardd, yn awdur ac yn libretydd sydd wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru.
Y mae galw mawr am ei waith fel libretydd. Yn 2023, fe gyfansoddodd eiriau’r gân ‘Sacred Fire’ a gomisiynwyd gan y Brenin Charles III ar gyfer seremoni’r Coroni yn Abaty Westminster. Sarah Class a ysgrifenodd gerddoriaeth y gân, a berfformiwyd gan y soprano o Dde Africa, Pretty Yende, ac a ddisgrifiwyd gan Andrew Lloyd Webber fel ‘mesmerising’.
Grahame Davies, by John BriggsY mae wedi cyhoeddi 18 o lyfrau gan gynnwys Cadwyni Rhyddid, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn, y nofel Rhaid i Bopeth Newid, a roddwyd ar y rhestr hir ar gyfer yr un wobr, yr astudiaeth o Gymru a’r Iddewon, The Chosen People, yr astudiaeth o Gymru ac Islam The Dragon and the Crescent, a’r cyfrolau seico-ddaearyddol poblogaidd, Real Wrexham a Real Cambridge.
Yn frodor o bentref Coedpoeth Wrecsam, y mae bellach yn rhannu ei amser rhwng Powys a Llundain. Y mae ganddo radd Saesneg o Brifysgol Anglia Ruskin yng Nghaergrawnt, a doethuriaeth o Brifysgol Caerdydd, lle bu hefyd yn Gymrawd Ymchwil anrhydeddus yn yr adran grefydd.
Mae hefyd wedi derbyn gradd D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Anglia Ruskin, ac ef oedd is-lywydd Coleg Goodenough, Llundain. Mae’n teithio’n rhyngwladol fel bardd a darlithydd, yn cyflawni llawer o gomisynau amlwg ac yn cyd-weithio’n helaeth gydag artistiaid gweledol a cherddorol. Yn 2020 fe gafodd ei benodi i Urdd Frenhinol Fictoria yn Anrhydeddau’r Frenhines gyda gradd yr LVO. Yn 2023, derbyniodd radd D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Aberdeen a theitl Athro Ymarfer Er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Cyfieithiwyd gwaith Grahame Davies i nifer o ieithoedd, ac mae hefyd wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau mor amrywiol â The Times, The Times Literary Supplement, The Guardian, Poetry London, y Literary Review yn America, Orbis (#136 Gwanwyn 2006), Yearbook of Welsh Writing in English, Absinthe (Michigan, UDA, 2007), Kalliope (yr Almaen, 2009), Poetry Review a chyfres Everyman Library Pocket Poets, Villanelles (2012) mae wedi ei gynnwys hefyd mewn nifer fawr o flodeugerddi ac yn rhan o’r cwricwlwm ysgol yng Nghymru.