Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn. Graddiodd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol o Brifysgol Bangor yn 2012 cyn dilyn cwrs MA mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol. Cwblhaodd PhD dan nawdd yr AHRC yn 2017 a chanolbwyntiodd y gwaith ar ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth y 19eg ganrif. Bellach, mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn), yn 2018, ac mae wedi cyhoeddi straeon byrion, llên feicro a barddoniaeth mewn gwahanol gyfrolau a chyfnodolion. Cyhoeddodd ei ail nofel, Y Cylch (Gwasg y Bwthyn) yn 2023, a chyfrol o lên feicro a ffotograffau, Cylchu Cymru (Y Lolfa) yn 2022 a fu’n ffodus o ennill categori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023. Golygodd y flodeugerdd LHDTC+ gyntaf o lenyddiaeth Gymraeg a chyhoeddwyd Curiadau (Barddas) yn 2023. Yn 2024, cyhoeddir ei gyfrol gyntaf o straeon byrion i blant, Llanddafad (Y Lolfa).
Mae wedi ennill ychydig wobrau am ei waith creadigol gan gynnwys Coron Eisteddfod Môn 2016 a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn 2019, Medalau Drama’r Eisteddfod Ryng-golegol 2012, Cymdeithas Ddrama Cymru (2010 a 2012), ac Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 ac Eisteddfod Genedlaethol AmGen 2021. Cynhyrchwyd drama fuddugol Eisteddfod 2019, Adar Papur, gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2020. Yn ogystal, derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru yn 2017 ar gyfer nofel ffantasi.
Lluniodd sgript y ddrama Ynys Alys a deithiodd Cymru yn 2022 gyda’r Frân Wen ac mae wedi cydweithio â chwmniau theatr yn India a Lloegr. Yn ogystal, bu’n rhan o brosiect cydweithredol yn 2023 gyda Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i weithio gyda dau fardd arall i gyfansoddi cerddi am ymfudo a chyfieithu gwaith ei gilydd i Tsiec, Armaneg, Pwyleg, Cymraeg a Saesneg.
Ac yn 2022, cyhoeddodd ei gyfrol academaidd gyntaf, a oedd yn addasiad o’i draethawd doethurol, ‘Mae’r Beibl on tu’: ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868) (Gwasg Prifysgol Cymru), a oedd yn ffodus iawn o dderbyn Gwobr Goffa Syr Ellis Griffiths yn hydref 2023.