Mae Grug Muse yn fardd, golygydd ac ymchwilydd. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion Cylchgrawn Y Stamp ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gyda Barddas yn 2017. Roedd yn un o breswylwyr Ulysses Shelter 2020, ac yn ddeilydd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru 2020. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau yn cynnwys O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales, Panorama: the journal of intelligent travel ac eraill. Roedd yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-19, ac fe enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2013, a chadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 2019. Mae’n gweithio ar hyn o bryd ar brosiect doethurol ym Mhrifysgol Abertawe, dan nawdd y Ganolfan yr AHRC ar gyfer Ymchwil Doethurol mewn Astudiaethau Celtaidd.