Merch o Gwm Rhondda yw’r Athro Christine James yn enedigol, ond mae’n byw yng Nghaerdydd ers dros ddeng mlynedd ar hugain bellach. Mae’n academydd sy’n arbenigo yn bennaf ar lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar ac ar lenyddiaeth Cymoedd y De. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, a phan ymddeolodd yn 2017, roedd hi’n Athro ac yn Bennaeth Adran. Mae Christine yn fardd profiadol, a chyhoeddwyd ei cherddi yn Barddas, Barn a Taliesin, ymhlith mannau eraill. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau yn 2005, ac yn 2014 dyfarnwyd gwobr categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn i’w chasgliad cyntaf o gerddi, rhwng y llinellau (Barddas, 2013). Christine oedd Archdderwydd Cymru am y cyfnod 2013–16, a hi yw Cofiadur yr Orsedd ar hyn o bryd – y ferch gyntaf erioed i’w phenodi i’r ddwy swydd hyn. Golygodd y gyfrol Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn (Gwasg Gomer, 2001), bu’n cyd-olygu Taliesin gyda Manon Rhys rhwng 2000 a 2009, a golygodd y gyfrol Dagrau Tost: Cerddi Aber-fan (Barddas, 2016) ar y cyd â’i gŵr, yr Athro E. Wyn James. Mae ganddynt dri o blant a phump o wyrion.