Addysgwyd Anne Elizabeth Williams yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Ar ôl graddio yn y Gymraeg, aeth ymlaen i ddilyn cwrs Diploma mewn Palaeograffeg a Gweinyddu Archifau ac i gwblhau Doethuriaeth ar Gwilym Tew, bardd o’r 15fed ganrif, a’i lawysgrif, Peniarth 51. Ar ôl cyfnod gyda Gwasanaeth Archifau Gwynedd yng Nghaernarfon, symudodd i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, i ymchwilio ym maes Meddyginiaethau Gwerin. Wedi hyn, bu’n gweithio fel cyfieithydd annibynnol am dros ugain mlynedd hyd ei hymddeoliad.
Cyhoeddiadau: Meddyginiaethau Gwerin Cymru (2017); Termau Archifau (1986); Meddyginiaethau Llafar Gwlad (1983)